Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, rydym wedi llunio Cynllun Iaith Gymraeg i gyhoeddi gwybodaeth yn Gymraeg pan fo hynny'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol yn ymarferol.
Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg OFT gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 17 Mawrth 2010.
Mae'r cynllun yn nodi ymrwymiad OFT i drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnig gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Er enghraifft, defnyddio'r Gymraeg mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a hysbysebu, a gohebu yn Gymraeg, os oes angen.
Mae cynllun OFT hefyd yn berthnasol i'r gwasanaethau a gynigir gan Cyswllt Defnyddwyr, oni nodir yn wahanol yn y cynllun.
Gwasanaeth ffôn ac ar-lein a ariennir gan y llywodraeth yw Cyswllt Defnyddwyr, ac mae'n cynnig gwybodaeth a chyngor ar faterion defnyddwyr. Ariennir Cyswllt Defnyddwyr gan y Swyddfa Masnachu Teg ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â gwasanaethau safonau masnach awdurdodau lleol. Ewch i wefan Cyswllt Defnyddwyr.
Llwythwch ein cynllun i lawr
Cynllun Iaith Gymraeg OFT1109 (pdf 234kb)
Cyhoeddiadau yn Gymraeg
Gellir gweld y cyhoeddiadau sydd ar gael yn Gymraeg yn adran cyhoeddiadau'r wefan hon.
Adborth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau mewn perthynas â'n cynllun, cysylltwch â:
Paul McSherry
Ffôn: 020 7211 5836 paul.mcsherry@oft.gsi.gov.uk
Back to: Accessing OFT information
This feature requires Javascript and Cookies to be enabled on your browser
Register for email alerts or amend your existing account details here.