View recent press releases, speeches, and news items published by month.
46-12w 8 Mehefin 2012
Mae'r Swyddfa Masnachu Teg wedi cyhoeddi canfyddiadau ei ymgynghoriad i farchnadoedd mewn cymunedau anghysbell ar draws y DU.
Mae tua hanner miliwn o bobl yn byw mewn ardaloedd anghysbell yn y DU. Cododd y rhai a ymatebodd i alwad OFT am dystiolaeth bryderon am brisiau uchel tanwydd a bwydydd, costau uchel gwasanaethau cyflenwi, neu wasanaethau cyflenwi cyfyngedig, trafnidiaeth gyhoeddus annigonol, cyflymdra rhyngrwyd araf a derbyniad gwael ffonau symudol.
Ar y cyfan, darganfu OFT bod prisiau uwch a dewis cyfyngedig yn yr ardaloedd anghysbell hyn yn gallu deillio o swm gwerthiant isel a chystadleuaeth wan, a rhai busnesau yn cael monopoli lleol. Lle mae marchnadoedd lleol ond yn gallu cynnal nifer cyfyngedig o gyflenwyr, gall fod yn anodd i ddefnyddwyr gael manteision cystadleuaeth barhaus. Mae'r rhyngrwyd yn gynyddol yn cynnig cyfleoedd i gael mynediad at amrediad ehangach o gyflenwyr, ond efallai bydd angen gweithredu i sicrhau nad ydy hyn yn cael ei lesterio gan delerau a chostau cyflenwi.
Yn ogystal â'i bwerau i ddelio gyda chartelau a phroblemau cystadleuaeth eraill ac er mwyn mynd i'r afael â thorri cyfraith diogelu defnyddwyr, mae gan OFT rôl hefyd i'w chwarae mewn ymchwilio marchnadoedd a hyrwyddo'r rôl bwysig y mae dewis defnyddwyr yn ei chwarae. Gan ddefnyddio'r amrediad eang hwn o bwerau mae OFT wedi cymryd, ac mae nawr yn atgyfnerthu, camau i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd, yn cynnwys dadansoddi tueddiadau mewn prisiau tanwydd yn Ynysoedd yr Alban, cyhoeddi canllaw ar drefniadau cydweithredu mewn ffermio a delio gyda materion diogelu defnyddwyr yn y sectorau olew gwresogi ac LPG.
Mae OFT hefyd yn gweithio gyda Safonau Masnach yr Ucheldiroedd i wella diogelu defnyddwyr mewn perthynas â gwasanaethau cyflenwi ac mae'n ymestyn ei ganllaw i fanwerthwyr sy'n cyflenwi cymunedau anghysbell ar sut i gydymffurfio gyda'r Rheoliadau Gwerthu o Bell. Mae hefyd yn dilyn i fyny y pwyntiau a wnaethpwyd mewn cyflwyniadau am doriadau lleol potensial i gyfraith cystadleuaeth.
Mae'r adroddiad yn cydnabod nad ydy'r holl broblemau a nodwyd yn syrthio oddi mewn i gylch gwaith OFT oherwydd, er enghraifft, dydyn nhw ddim yn berthynol i ymddygiad anghyfreithlon neu wrth gystadleuol. Mae'r astudiaeth yn amlygu mentrau mewn cymunedau lleol sy'n mynd i'r afael â'r heriadau - er enghraifft, defnyddwyr yn gweithredu ar y cyd mewn 'clybiau prynu' i ostwng prisiau, neu sefydlu mentrau cymunedol i gadw gwariant ac elw lleol yn y gymuned. Mae hefyd yn nodi ffyrdd y gall busnesau, llywodraeth (lleol a chenedlaethol) a phartneriaid gorfodi, yn ogystal ag OFT, chwarae rolau cyflenwol i sicrhau masnachu teg gan fusnesau i ddefnyddwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwraig OFT, Kyla Brand:
'Mae'r alwad am dystiolaeth wedi dangos sut y mae problemau prisiau, dewis a mynediad at nwyddau a gwasanaethau yn gallu crynhoi i ddefnyddwyr a busnesau mewn ardaloedd anghysbell. Gallwn nawr esbonio sut y gall dulliau gweithredu cydgysylltiedig lwyddo i wneud i farchnadoedd weithio'n dda - neu o leiaf yn well - i'r rhai hynny mewn ardaloedd anghysbell.
'Does dim ateb cyflym ym mhwerau OFT ond mae gennym ran i'w chwarae, ochr yn ochr â busnesau, cymunedau a chyrff y llywodraeth.
'Rydym wedi gweithredu, a byddwn yn parhau i weithredu ein hunain i fynd i'r afael â'r pryderon hyn a byddwn yn rhannu ein hadroddiad gydag adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol ac eraill er mwyn helpu i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn llywio trafodaethau polisi. Bydd hefyd yn siapio gwaith OFT yn y dyfodol, ar draws ein hamrediad llawn o bwerau.'
NODIADAU
Back to: Press releases
08457 22 44 99
Elliott Ball
020 7211 8898
elliott.ball@
oft.gsi.gov.uk
Russell Guthrie
020 7211 8899
russell.guthrie@
oft.gsi.gov.uk
Nike Onakoya
020 7211 8133
nike.onakoya@
oft.gsi.gov.uk
out of hours mobile
(media only)
077 7413 4814
This feature requires Javascript and Cookies to be enabled on your browser
Register for email alerts or amend your existing account details here.